Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac

Addysg
Ymchwiliad i Hawliau plant yng Nghymru
CRW 07                   

Ymateb gan: Gofal Cymdeithasol Cymru ___________________________________

 

National Assembly for Wales
Children, Young People and Education Committee

Inquiry into Children’s rights in Wales

CRW 07       

Response from: Social Care Wales

___________________________________

 

 

Gan fod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (2011) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) wrth arfer eu swyddogaethau, rydym yn cydnabod mai’r llywodraeth sydd yn y sefyllfa orau i ymateb i’r ymchwiliad hwn. Rydym yn darparu’r llythyr hwn fel gwybodaeth atodol i lywio gwaith y Pwyllgor.

Fel corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, er nad yw’r Mesur yn uniongyrchol berthnasol i ni, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymdrechion Gweinidogion Cymru i ddatblygu a darparu polisi sy’n hyrwyddo ac yn diogelu hawliau plant a phobl ifanc. Credwn yn gadarn fod gwybodaeth am hawliau plant a phobl ifanc yn hanfodol i bob gweithiwr proffesiynol a allai roi gofal a chefnogaeth, ynghyd â dealltwriaeth well o hawliau a chefnogaeth fwy hygyrch i blant a phobl ifanc eu hunain. Fel sefydliad, rydym o’r farn bod adroddiad y Comisiynydd Plant, Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru (2017) a’r fframwaith sydd ynddo, yn bwysig yn ein gwaith i ymgorffori hawliau plant yn ffrydiau gwaith amrywiol ein busnes, gan gynnwys ein hymdrechion i arwain gwelliannau mewn arferion a gwasanaethau, datblygu’r gweithlu a rheoleiddio ym maes gofal cymdeithasol.

Er enghraifft, yn 2018, cwblhaom raglen o waith a oedd yn darparu hyfforddiant ac yn codi ymwybyddiaeth ynghylch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd hyn yn rhannu egwyddorion a llawer o fanylion y newidiadau o ran diwylliant ac ymarfer a ddisgwylir o dan y Ddeddf, gyda gweithwyr proffesiynol ledled sefydliadau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, iechyd a’r trydydd sector. Man cychwyn y gwaith hwn oedd dealltwriaeth o weithgarwch sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Rydym wedi ymgymryd â rhaglen fawr o waith yn ymwneud ag ymarfer gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n seiliedig ar gryfderau (Sgyrsiau Cydweithredol) a dylid ymgymryd â’r holl arfer hwn yng nghyd-destun dull sy’n seiliedig ar hawliau. Mae hyn yn cynnwys datblygu deunyddiau o amgylch rolau datblygol Gweithwyr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

Rydym wedi bod yn gweithio â Chymwysterau Cymru a Chyrff Dyfarnu i ddatblygu cyfres o gymwysterau newydd ar gyfer gweithwyr mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ac ar gyfer y sawl sy’n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Mae’r holl gymwysterau hyn yn cyfeirio’n benodol at UNCRC fel ffordd o hysbysu gweithwyr gofal am hawliau a hawlogaethau plant a phobl ifanc, fel y gallant ymdrechu’n ystyrlon i’w sicrhau drwy gyflwyno arfer da.

Rydym yn cytuno â Chomisiynydd Plant Cymru, y bydd cyflawni ar hawliau plant yn ein helpu i feithrin ymhellach ddiwylliant sy’n hyrwyddo meddwl am y ffordd y mae’r hyn sy’n digwydd mewn cymdeithas yn effeithio ar blant, gan herio arferion gwael a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol. Mae gwelliannau ymarferol sy’n arwain at ganlyniadau buddiol yn hanfodol er mwyn i hawliau plant fod ag ystyr gwirioneddol, a thrwy ein gwaith, ein nod yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol gofal yn galluogi gwireddu eu hawliau.